Diben

 

1.         Mae'r papur hwn yn rhoi tystiolaeth ysgrifenedig gan Ysgrifenyddion y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a Chyllid a Llywodraeth Leol ar  ddatblygiadau Bargeinion Dinesig a Thwf yng Nghymru a'r cyfraniad y maent yn ei wneud i economïau rhanbarthol Cymru.

 

Cefndir

 

2.         Yn dilyn llofnodi Bargeinion Dinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd a Rhanbarth Bae Abertawe mae'r gwaith yn mynd rhagddo i nodi a chyflawni'r camau i wireddu uchelgeisiau'r bargeinion hynny, o dan arweiniad yr awdurdodau lleol mewn cydweithrediad â'r rhanddeiliaid rhanbarthol.  Mae'r papur hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar ddatblygiadau'r Bargeinion sydd wedi'u llofnodi, yn ogystal ag amlinelliad o'r cynigion ar gyfer Bargeinion Twf mewn mannau eraill o Gymru.

 

3.         Mae'r Bargeinion Dinesig yn cael eu harwain gan uchelgais yr awdurdodau lleol ac maent yn seiliedig ar gydweithio rhanbarthol ymysg rhanddeiliaid, sy'n nodi eu blaenoriaethau ar gyfer ymyrraeth er mwyn sbarduno twf economaidd cynaliadwy.  Mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn gyd-lofnodwyr yn y Bargeinion, ond y brif egwyddor yw bod partneriaid lleol yn datblygu ac yn cyflawni cynigion fydd yn creu twf economaidd lleol. 

 

Cyfarfod o Fwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

 

4.         Cafodd Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd ei llofnodi gan yr awdurdodau lleol a Llywodraethau Cymru a'r DU ym mis Mawrth 2016.  Mae'r Fargen hon yn ceisio rhoi'r adnoddau i bartneriaid lleol sicrhau twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-ranbarth Caerdydd, gan alluogi arweinwyr yr awdurdod lleol i wneud penderfyniadau rhanbarthol, rhannu eu hadnoddau a gweithio'n fwy effeithiol gyda busnesau lleol.

 

5.         Sefydlodd y Fargen Gronfa Fuddsoddi ar gyfer y Rhanbarth o £1.2 biliwn dros gyfnod o 20 mlynedd.   Mae'r Fargen yn ceisio adeiladu ar gryfderau'r rhanbarth fesul sector, ei sylfaen sgiliau uchel a'r dair brifysgol lwyddiannus.  Mae'n rhoi cyfle i barhau i fynd i'r afael â rhwystrau'r ardal i dwf economaidd trwy wella cysylltedd trafnidiaeth; gwella lefel sgiliau; cefnogi pobl yn ôl i waith; a rhoi'r cymorth y mae ei angen ar fusnesau i arloesi a datblygu.

 

Effaith

 

6.         Yn ystod ei oes, mae Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn anelu at ddarparu 25,000 o swyddi newydd a sicrhau £4 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad o'r sector preifat.

 

Cyllido

 

7.         Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd gwerth £1.2 biliwn yn cynnwys cyllid o £734 miliwn ar gyfer Metro De Cymru, gyda £500 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £125 miliwn gan Lywodraeth y DU a £106 miliwn gan yr ERDF. Mae'r Fargen hefyd i dderbyn £495 miliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth y DU a £120 miliwn gan awdurdodau lleol) sydd ar gael i'w blaenoriaethu yn unol ag amcanion y Fargen.

 

Llywodraethu

 

8.         Mae'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi eu cyhoeddi a'u cytuno gan ddeg o awdurdodau lleol.

 

9.         Mae'r awdurdodau wedi sefydlu Cabinet ar y cyd i ddarparu arweiniad ac atebolrwydd i'r Fargen.  Bydd yn cael ei gefnogi ac yn derbyn cyngor gan Bartneriaeth Twf Economaidd a Sefydliad Busnesau Rhanbarthol sy'n sicrhau y bydd y Fargen yn adlewyrchu anghenion y sector preifat a rhanddeiliaid ehangach. Mae Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi ei greu hefyd, i sefydlu blaenoriaethau strategol ar draws y rhanbarth.

 

10.       Mae'r trefniadau hyn hefyd yn llywodraethu'r broses o nodi a dewis ymyraethau, gwneud penderfyniadau, rheoli risg a monitro parhaus, gwerthuso a chofnodi, i sicrhau bod y fargen ddinesig yn darparu'r manteision a fwriadwyd i'r rhanbarth yn llwyddiannus.

 

Trefniadau Monitro

 

11.       Mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddatblygu cynllun gweithredu, monitro a gwerthuso y cytunwyd arno. 

 

12.       Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu'n llawn wedi i   Fargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd gwblhau'r Adolygiadau Gateway Pum Mlynedd yn llwyddiannus, fydd yn gwerthuso effaith buddsoddiad y Fargen yn y pum mlynedd hyd at yr Adolygiad. Bydd adolygiad annibynnol o'r manteision economaidd ac effaith economaidd y buddsoddiadau yn sail i'r asesiadau, ac a yw'r prosiectau a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol wedi eu darparu ar amser ac wedi cadw at y gyllideb.

 

Prosiectau y Fargen Ddinesig

 

13.       Yn dilyn cadarnhad ffurfiol o Fargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd gwerth £1.2 biliwn ym mis Mawrth 2017 ac etholiadau llywodraeth leol, mae'r rhanbarth yn y broses o nodi, blaenoriaethu a chytuno ar brosiectau ac ymyraethau i ddarparu uchelgeisiau'r Fargen.

 

14.       Datblygwyd a chytunwyd ar fframwaith sicrwydd ansawdd gan yr awdurdodau lleol, gyda Llywodraethau Cymru a'r DU yn cytuno arnynt, i ddarparu proses dryloyw ar gyfer nodi, blaenoriaethu a chytuno ar brosiectau ac ymyraethau sydd o fudd i'r Ddinas-ranbarth gyfan. 

 

15.       Mae'r Rhanbarth wedi cyhoeddi ei fuddsoddiad cyntaf.  Rydym yn croesawu'r cynlluniau i fuddsoddi £37 miliwn i greu clwstwr technolegol blaenllaw byd-eang i'w gefnogi gan y Fargen Ddinesig hon, ac mae disgwyl y bydd yn creu dros 2,000 o swyddi ac yn cael ei gefnogi gan £12 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru.

 

16.       O dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mae darparu Metro De-ddwyrain Cymru yn ganolog i'r Fargen, gan gynnwys rhaglen Drydaneiddio Cledrau'r Cymoedd. Mae'r broses gaffael ar gyfer y Metro bellach wedi dechrau a Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi ei gytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Chabinet ar y Cyd y Fargen Ddinesig sy'n rhoi amlinelliad o'r swyddogaethau a'r rhyngweithio ar gyfer cynllunio a darparu camau y Metro yn y dyfodol.

 

Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

17.       Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gwerth £1.3 biliwn, yw'r ail fargen yng Nghymru, wedi ei llofnodi ym mis Mawrth 2017.  Mae'n cynnig dull o gefnogi twf economaidd ledled De-orllewin Cymru. Mae llofnodi'r fargen hon yn cadarnhau ymrwymiad ar y cyd rhwng y pedwar awdurdod lleol, Llywodraethau Cymru a'r DU, i gydweithio a rhoi'r cynlluniau yn y ddogfen ar waith.

 

18.       Mae Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi ei greu yn wahanol i Fargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd.  Yn hytrach na sefydlu cronfa seilwaith, mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phartneriaid wedi cytuno i ariannu cyfres o brosiectau ar y cyd o fewn themâu Iechyd, Ynni, Cyflymu Economaidd a Gweithgynhyrchu Smart. Mae cyfanswm o un-ar-ddeg o brosiectau mawr wedi eu cynnig.  Bydd achosion busnes manwl yn cael eu datblygu bellach, a byddant yn destun cymeradwyaeth gan y Cyd-bwyllgor a Llywodraethau Cymru a'r DU. Mae'r partneriaid hefyd yn datblygu'r trefniadau llywodraethu er mwyn cynnig arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd ar gyfer cyflawni'r Fargen yn llwyddiannus.

 

Effaith

 

19.       Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae'r Fargen hon yn anelu at hybu'r economi leol gyda £1.8 biliwn i greu bron i 10,000 o swyddi newydd, gan ddenu £637 miliwn o'r sector preifat.

 

Cyllido

 

20.       Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn seiliedig ar becyn buddsoddi o £1.3 biliwn sy'n cynnwys £125.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, £115.6 o gyllid Llywodraeth y DU, £396 miliwn o arian sectorau cyhoeddus eraill a £637 miliwn o'r sector preifat.

 

Llywodraethu

 

21.       Y Cabinet ar y Cyd sy'n bennaf gyfrifol am y trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae'r dull hwn o weithio yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ganolog i'r Fargen.  Mae'r Fargen hon hefyd yn cynnig creu Bwrdd Strategaeth Economaidd fydd yn monitro cynnydd wrth gyflawni'r Fargen ac yn rhoi cyngor strategol i'r Cyd-bwyllgor ar y Fargen Ddinesig. Bydd y pedwar awdurdod lleol yn cytuno ar y trefniadau llywodraethu ffurfiol a'r model cyflenwi a bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

 

Monitro

 

22.       Bydd Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gweithio gyda Llywodraethau Cymru a'r DU i ddatblygu cynllun gweithredu, monitro a gwerthuso y cytunwyd arno cyn dechrau ar y fargen, sy'n pennu'r dull arfaethedig o werthuso effaith y cyflenwi.

 

Bargen ar gyfer Twf Gogledd Cymru

 

23.       Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio'n agos â Rhanbarth Gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Gogledd-ddwyrain Cymru i ystyried sut y gall Bargen Twf gefnogi eu huchelgais i sicrhau rhagor o dwf economaidd yn y dull gorau.

 

24.  O ran Bargeinion Dinesig mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar ddatganoli pwerau ychwanegol a hyblygrwydd i lywodraeth leol pan fo awgrym cryf y gallai hyn gefnogi twf rhanbarthol.

 

25.       Cyflwynwyd dogfen weledigaeth 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru' i Weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddechrau Awst 2016 ac mae'n bwynt cychwyn pwysig i ddatblygu Bargen. Cytunwyd ar y weledigaeth hon gan y chwe Awdurdod Lleol unigol a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys cytundeb mewn egwyddor i sefydlu Cyd-bwyllgor i fod yn berchen ar Gais Twf Gogledd Cymru a’i weithredu.

 

26.       Wrth gyfieithu'r weledigaeth hon yn ymyraethau penodol sy'n cael effaith economaidd ar y rhanbarth, rydym wedi ei wneud yn amlwg bod angen i bartneriaid nodi pecyn o fesurau realistig, cymesur i ryddhau cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

27.       Croesawyd ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU yng nghyllideb Mawrth 2017 i'r Fargen ar gyfer Twf Gogledd Cymru a rydym yn edrych ymlaen at ystyried rhagor o gynigion gyda Llywodraeth Cymru maes o law.

 

28.       Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid rhanbarthol i ddeall y ffordd orau o gefnogi eu huchelgeisiau.

 

29.  Rydym hefyd yn gweithio gyda’n rhwydwaith ehangach o randdeiliaid a phartneriaid allai helpu i ddapraru llesiant economaidd.  Mae’r rhain yn cynnwys y dair Ardal Fenter yng Ngogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Growth Track 360, Partneriaeth Menter Lleol Swydd Gaer a Warrington, yn ogystal â phartneriaid a sefydliadau allweddol eraill ledled Gogledd Cymru ac ardal ehangach Pwerdy Gogledd Lloegr.

 

Bargen ar gyfer Twf Gogledd Cymru

 

30.       Rydym yn parhau yn ymrwymedig i weithio gydag unrhyw ardal yng Nghymru sy'n dymuno edrych ar sut y byddai Bargeinion Dinesig a Thwf o fudd iddynt hwy.

 

31. Mae Powys a Ceredigion yn parhau i ddatblygu 'Tyfu Canolbarth Cymru' gyda Phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a sefydlwyd ar ddechrau 2015 fel partneriaeth ranbarthol oedd yn cynnwys cyrff cynrychioladol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn y canolbarth i arwain dull cydweithredol y rhanbarth o ddatblygu yn economaidd. 

 

32.  Mae’r Bartneriaeth wedi sefydlu Fframwaith Gweithredu sy’n pennu blaenoriaethau allweddol ar gyfer cyflawni twf economaidd a llewyrch ar draws y rhanbarth.  Mae’r Bartneriaeth hefyd yn gweithio’n agos â Phartneriaeth Menter Lleol y Gororau ar feysydd o ddiddordeb cyffredin ac mae wedi trafod materion trawsffiniol gyda cyrff eraill yn ardal y Canolbarth.

 

33.  Rydym hefyd yn disgwyl dwy gyfres o drefniadau penodol a fyddai’n parhau o dan ymbarel ardal pwyllgor cyd-lywodraethu Canolbarth a De-orllewin Cymru.

 

Effaith y Fargen Ddinesig ar Dwf Rhanbarthol

 

34.       Mae Bargeinion Dinesig yn seiliedig ar gydweithio rhwng partneriaid lleol i ddatblygu cynigion ar gyfer twf economaidd rhanbarthol.  Yr hyn sy'n bwysig yw darparu cyfres newydd o gyfleoedd a chyfrifoldebau i bartneriaid lleol a nodi cryfderau economaidd sy'n sail i feithrin twf economaidd.  Trwy annog partneriaid i gydweithio, mae'r Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol ystyried y ffordd orau o fodloni anghenion y rhanbarth cyfan.  Bydd yn bwysig, wrth yrru twf economaidd rhanbarthol, bod partneriaid yn sicrhau bod y manteision i’r rhanbarth gyfan.   

 

35.       Wrth gydweithio gyda phartneriaid lleol a Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn sensitif i'r berthynas rhwng y gwahanol Fargeinion Dinesig a'r Bargeinion Twf.  Mae'n bwysig bod y Bargeinion yn unigryw ac nad  ydynt yn cystadlu â'i gilydd.  Mae hyn yn arbennig o wir gyda Bae Abertawe a Bargeinion Dinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd, sydd drws nesaf i'w gilydd.  Yn yr un ffordd, mae angen i ddatblygiadau sy'n gysylltiedig â Bargen Twf Gogledd Cymru adlewyrchu anghenion penodol Cymru a natur yr economi drawsbynciol, gan gynnwys y cyfraniad at Bwerdy Gogledd Lloegr.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn glir bod yn rhaid i'r rhanbarthau hyn gydweithio mewn dull sy'n ategu ei gilydd.

 

Cyfraniad at Strategaeth Llywodraeth Cymru

 

36.       Trwy annog gweithredu fel dinas-ranbarth ym maes datblygu economaidd yn 2012, dangosodd Llywodraeth Cymru ffordd newydd o weithio gyda ffocws mwy rhanbarthol ar ddatblygu economaidd.  Caiff hyn ei gynnwys wrth sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Dinas-ranbarthau a'i adroddiad sy'n argymell sefydlu dwy ddinas-ranbarth yn ne Cymru. Mae'r datblygiadau hyn wedi eu hanelu at ddatblygu economïau rhanbarthol trwy rymuso pob ardal i ddatblygu ei hunaniaeth economaidd eu hunain a sectorau arbenigol.   Mae darparu sgiliau rhanbarthol yn bolisi allweddol i ganolbwyntio arno wrth ddatgblygu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn y ganolfan. Mae'r partneriaethau hyn yn rhan annatod o'r Bargeinion Dinesig y cytunwyd arnynt hyd yma.

 

37.       Mae ein mesurau ar gyfer gwella ein seilwaith trafnidiaeth ar draws pob rhan o Gymru wedi eu pennu yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol. Mae'r Dinas-ranbarthau wedi dylanwadu ar y broses hon o gynllunio trafnidiaeth ar lefel leol a chenedlaethol. Mae hyn wedi rhoi'r cyfle iddynt nodi'r prif welliannau y maent yn gredu sy'n bwysig i'w rhanbarthau.

 

38.       Wrth fynd ymlaen, rydym wedi dangos symudiad at ddull mwy rhanbarthol o weithio gan mai un o'r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw sut yr ydym i ail-ffocysu a mireinio ein dull o weithio mewn ffordd a fyddai yn helpu inni sicrhau twf cytbwys ar draws pob rhan o Gymru.   Trwy’r Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol a Chadernid ac Adnewyddiad, a gyhoeddwyd ar 31 Ionawr 2017, amlinellwyd ein cynigion i greu cadernid a chefnogi’r adnewyddiad yn y llywodraeth leol, gan adeiladu ar drafodaethau eang gyda llywodraeth leol.

 

39.  Yr hyn sy’n flaenllaw gennym yw dull systematig a gorfodol o weithio rhanbarthol, fel y mae ar lefel ranbarthol ac wrth ddatblygu hunaniaethau unigryw gyda mwy o ffocws ar yr economïau hynny y gallwn sbarduno twf cytbwys a chynaliadwy, trwy helpu pob rhanbarth ddatblygu eu sectorau blaenoriaeth eu hunain a sectorau arbenigol.

 

40.       Mae datblygu Bargeinion Dinesig wedi dangos effaith a phosibiliadau gweithio mewn partneriaeth. Mae Bargeinion Dinesig yn rhoi fframwaith, y tu hwnt i fuddsoddiad y Fargen Ddinesig, sy'n caniatáu i ranbarthau gydweithio i osod blaenoriaethau economaidd a chyflawni swyddogaethau fel rhanbarth, gan gynnwys cynllunio tir, trafnidiaeth a datblygiad economaidd.

 

41.       Mae Dinas-ranbarthau yng Nghymru wedi rhoi cyfle i awdurdodau lleol fynd ymlaen i wneud gwahaniaeth parhaus i'r ffordd y maent yn cydweithio er budd y rhanbarth ehangach y maent yn ei chynrychioli.  Mae hyn yn cyd-fynd â dull y Llywodraeth o ddiwygio llywodraeth leol.

 

 

Mark Drakeford AC

Ken Skates AC

Ysgrifennydd y Cabinet

dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Ysgrifennydd y Cabinet

dros yr Economi a'r Seilwaith.